#MC20: Edrych yn ôl ar rai o uchafbwyntiau’r Gymraeg yng Nghaerdydd (1998-2018).

Rydym ni’n dathlu ein pen-blwydd yn Ugain oed eleni- hip hip HWRE!
Sefydlwyd y Fenter nôl yn 1998 – blwyddyn pasio Deddf Llywodraeth Cymru i sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol; ymweliad Nelson Mandela â’r Brifddinas ym mlwyddyn olaf ei Arlywyddiaeth; gig enwog y Stereophonics yng Nghastell Caerdydd; a merch ddeuddeg oed o Landaf yn cyhoeddi ei halbwm gyntaf, ‘Voice of an Angel’… Teimlo’n hen?!
Mae cymaint wedi newid yng Nghaerdydd, fel yn y Fenter hefyd, dros yr ddwy ddegawd diwethaf!
Gyda diolch arbennig i Dylan Foster Evans am ein rhoi ar ben y ffordd, dyma edrych yn ôl ar rai (a rhai yn unig) o’r cerrig milltir inni eu dathlu yma yng Nghaerdydd dros yr ugain mlynedd diwethaf …
1998
- Deddf Llywodraeth Cymru, a sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar ôl Refferendwm Datganoli ’97.
- Agor ail ysgol uwchradd Gymraeg yng Nghaerdydd – Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr.
1999
- Ethol y Cynulliad Cenedlaethol cyntaf
- Agor Stadiwm y Mileniwm
- Caerdydd yn gartref i Gwpan Rygbi’r Byd
- Cwblhau Morglawdd Bae Caerdydd
2000
- Sefydlu Côrdydd, côr cymysg Cymraeg ei iaith
2001
- Y Cyfrifiad yn dangos bod 32,504 o siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd (11.0% o’r boblogaeth)
- Rownd derfynol Cwpan FA Lloer yn cael ei chwarae am y tro cyntaf yn Stadiwm y Mileniwm
2002
- Sefydlu Côr CF1, côr cymysg Cymraeg ei iaith
- Agor tafarn Y Mochyn Du
2004
- Sefydlu Bechgyn Bro Taf a Côr Meibion Taf
- Agor Canolfan Mileniwm Cymru
- Agor Gwersyll yr Urdd, Caerdydd
2005
- Sefydlu Aelwyd y Waun Ddyfal gan fyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd
- Agor ysgol gynradd Gymraeg Glan Morfa
2006
- Agor Adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd
- Cynnal Tafwyl am y tro cyntaf yn nhafarn y Mochyn Du
2007
- Agor ysgolion cynradd Cymraeg Pen-y-pil a Nant Caerau
2008
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn ymweld â Chaeau Pontcanna
- Ffurfio Côr y Mochyn Du (o 2015 dan yr enw Côr Hen Nodiant)
2009
- Agor ysgolion cynradd Cymraeg Pen-y-groes a Glan Ceubal
2011
- Y Cyfrifiad yn dangos bod 36,735 o siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd: ▲4,231 ers cyfrifiad 2001
- Cynnal noson farddoniaeth Gymraeg gyntaf Bragdy’r Beirdd
2012
- Agor Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern, trydedd ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg Caerdydd
2016
- Agor Canolfan Gymraeg Yr Hen Lyfrgell
- Agor Ysgol Gynradd Gymraeg Hamadryad, gan godi nifer ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg, Caerdydd, i 17.
2017
- Cyngor Caerdydd yn lansio ei strategaeth bum mlynedd ‘Caerdydd Ddwyieithog’
2018
- Sefydlu Undeb Myfyrywyr Cymraeg Caerdydd ym Mhrifysgol Caerdydd
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn ymweld â Bae Caerdydd
Ymlaen at Ugain mlynedd arall o ddathlu cerrig milltir i’r Gymraeg yng Nghaerdydd!