Eisteddfod Ysgol Farddol Menter Caerdydd

Tros 2019-20, cynhaliwyd tri dosbarth dan aden y Fenter, sef: y dechreuwyr dan ofal Emyr Davies, criw’r ail flwyddyn dan ofal Aron Pritchard a’r criw profiadol dan ofal Gruffudd Owen.  Bu’n draddodiad ers blynyddoedd i gynnal Eisteddfod yr Ysgol Farddol ar ôl i’r cyrsiau ddod i ben, ond ni fu hynny’n bosib eleni.  Fodd bynnag, roedd y beirdd wedi anfon eu cynigion, yn llinellau, cwpledi, englynion, cywyddau ac ati mewn da bryd, felly dyma gyhoeddi beirniadaeth ysgrifenedig Eisteddfod Ysgol Farddol 2020.  Diolch yn fawr i’r beirniad, Mererid Hopwood, am ei sylwadau a gyhoeddir isod.  Cyhoeddir enw’r enillydd wrth bob cystadleuaeth, gan ddiolch i’r tri chriw am eu gwaith a’r hwyl a gafwyd ar hyd y flwyddyn.

 

 

Beirniadaeth

Eisteddfod 2020

Ysgol Farddol Menter Caerdydd

 

Diolch i bawb yn Ysgol Farddol Menter Caerdydd am fynd ati i ddysgu cynganeddu ac i fentro ar y tasgau. Hen dro nad ydym ni’n gallu cwrdd i drafod a joyo wyneb yn wyneb.

 

Yn y bôn mae dau brif bwrpas i feirniadaeth: canfod enillydd a hefyd ceisio tynnu sylw at ambell beth er mwyn rhoi’r cystadleuwyr ar ben ffordd at y tro nesaf.

 

Fel gyda phob beirniadaeth, mater o chwaeth yw’r sylwadau isod. Byddai beirniad arall, mae’n ddigon posib, wedi dewis yn wahanol.

 

Felly yn yr ysbryd hwnnw, cynigiaf y sylwadau isod, gyda llongyfarchion i holl ddisgyblion yr ysgol farddol – y buddugol a phawb arall.

 

  1. Cynghanedd draws neu groes yn cynnwys gair Sbaeneg.

 

Mân wallau …

‘¡No pasarán!’ daeth y rhu

Dwi’n hoffi’r llinell hon yn fawr o ran ei chyfeiriadaeth, ond yn anffodus bydd rhaid ateb y ‘p’ a’r ‘s’ yn ‘pasarán’ iddi fod yn gywir.

 

Ddaw El Niño o’r nennau

Fan hyn hefyd,  cofiwch fod angen ateb y ‘dd’ yn ‘ddaw’.

 

Cataluña – pa lonydd

Mae bob amser yn braf clywed sôn am Cataluña, ond bydd eisiau chwilio am ‘c’ a ‘t’ o flaen ‘lonydd’ iddi fod yn gywir.

 

 

Hoffi …

Un barus yw ein burro.

gan Styfnig

 

Mae’r cystadleuydd hwn wedi talu sylw gofalus i’r ffugenw gyda’r ‘Styfnig’  yn rhan annatod o’r ymgais. Da iawn!

 

Casa sy’n creu cysur

gan Cartref

 

Hyfryd. Mae’r casa hwn yn aelwyd ac yn gartref …

Ac ar y brig …

3ydd

Sbaeneg yw iaith y sboner

gan Duwch

Dwi wrth fy modd gyda’r trawiad hwn. Mae’r gair ‘sboner’ ynddo’ i hunan bob amser yn gwneud i mi wenu. Wn i ddim pam. Ac mae dod â fe at ‘Sbaeneg’ yn ardderchog!

 

Ail

Yn Sbaeneg mae yn sbinio.

gan Llysiau

 

Fel dwi’n deall, rhyw fath o ymarfer corff yw sbinio, a dwi’n gwybod mai’r gair Sbaeneg am y gamp yw ‘El Spinning’ sy’n taro’r glust yn rhyfedd iawn. Er gwaetha’r ffaith mai gair Saesneg a ddefnyddir yn Sbaeneg, mae’r cyfaill dan sylw yn amlwg yn ei wneud yn Sbaeneg. Mae’n f’atgoffa fi o gwpled Mei Mac o’i awdl Gwawr: ‘Yn Gymraeg mae’i morio hi /Yn Gymraeg y mae rhegi’. Tybed a fyddai ‘Yn Sbaeneg y mae sbinio’ wedi gweithio hefyd?

 

1af

Ceisio bollt y casa bach

gan Ar Ras

 

Perffaith! Mae dod o hyd i glo ar ddrws tŷ bach yn bwysig … ond dim gwastraffu papur cofiwch!

 

Enillydd: Emlyn Williams

 

 

  1. Cynghanedd sain yn cynnwys y gair ‘mawr’

 

Mân wallau …

Y gamp gyda’r gynghanedd sain yn aml yw ceisio sicrhau mai tri churiad sydd iddi a bo rheiny’n syrthio ar y geiriau sy’n creu’r gynghanedd.

Yn y llinell gyntaf isod, mae ‘mêl’ a ‘medd’ yn hawlio curiad, a felly hefyd ‘pasio’ yn yr ail.

 

Nawr, gwellhad mawr: mêl? Na, medd!

 

Poenus pasio’r mefus mawr

 

Hoffi …

Mae’r ddwy linell hon yn taro deuddeg:

 

Diddiffyg yw’r Meddyg Mawr

 

Nid cawr ond mawr yw Meirion

(Fel mae’n digwydd, mae gen i gefnder o’r enw Meirion, ac mae’n dal a chryf iawn!)

 

 

Ac ar y brig …

Mae’r rhain i gyd yn dweud rhywbeth sy’n werth cnoi cil drosto, yn arbennig felly linell Amherthnasol yn y dyddiau ‘ymynysog’ hyn.

 

3ydd

Enfawr yw’r cawr i’r corrach

gan Coblyn Bach

 

Ail

Delo’r wawr, mawr y meirw 

gan Dai Bach

 

1af

Newid mawr sy’ lawr y lôn

gan Amherthnasol

 

Enillydd: Heulwen Jones

 

 

 

  1. Cwpled caeth yn cynnwys unrhyw bysgodyn

 

Mân wallau

 

Rwyf wrth fy modd gyda’r syniad o bysgodyn fel angel heb adenydd yng nghynnig Powlen Wydr. Druan ohono. Ond gellid gwella ar yr ail linell drwy geisio cadw at dri churiad. Y geiriau allweddol o ran y gynghanedd yw ‘maith’ ‘daith’ a ‘dydd’ ac yn ddelfrydol, rheiny ddylai hawlio’r sylw. Fodd bynnag, mae’r hen ‘tro’ yn stwffo ei hunan i’r stori ac yn mynnu sylw hefyd.

 

Angel hen heb adenydd:

Maith bob tro yw’r daith bob dydd.

gan Powlen Wydr

 

 

Hoffi …

Rwy’n hoffi’r gyfeiriadaeth feiblaidd fan hyn, ond dyw hi ddim yn gwbl glir i mi pam eu bod ‘yn y llaw’. Llaw pwy?

 

Ai cod yw’r ddau bysgodyn

Yn y llaw yn ymyl llyn?

gan Gwyrosydd

 

Ar y brig

3ydd

Gan loywi lein fy ngwiail

Yn wych y daw Coch y Dail.

gan Moc

 

Mae cwpled Moc yn haeddu ei ganmol pe byddai ond am ein hatgoffa o’r enw hyfryd arall sydd gyda ni yn Gymraeg am frithyll: Coch y Dail. Ac mae’r hen gynghanedd lusg fach slei gyda’r ‘wi’ ar ddiwedd ‘loywi’ yn cydio yn yr ‘wi’ yn ‘ngwiail’ yn gweithio’n iawn.

 

Ail

Heb reibiwr dŵr yr aur du,

y brithyll nawr sy’n brathu.

gan y dyn dŵad

 

Fel un sy’n cofio Afon Taf yn llifo’n ddu gan lwch y glo, mae’r cwpled hwn gan y dyn dŵad yn taro deuddeg hefyd.

 

1af

Wyf Jaws ac rwyf yn awsam;

Nemo wyf wrth gwtsho Mam.

gan Spielberg

 

Mae rhywbeth hyfryd a gogleisiol yng nghwpled Spielberg. Dwi wedi ei ddarllen sawl gwaith a phob tro mae’n codi gwên. Dwi’n gwybod am fois mawr iawn sy’n dofi’n go glou wrth weld eu mamau! Mae thema byd y pictiwrs yn cyfleu’r syniad i’r dim.

 

Enillydd: Elin Williams

 

 

  1. Englyn yn cynnwys y gair ‘embaras’

 

Mân wallau …

Cassandra: cofiwch fod angen gorffen ail linell englyn yn ddiacen

Telitybi: cymrwch gip eto ar y llinell olaf. Mae ‘toes ei wên’ yn gofyn am ateb ‘t s acen’ ond mae ‘tas’ yn cynnig ‘t acen s’.

 

Dyma’r tri sy’n dod i’r top gen i. Maen nhw’n gywir ac yn slic, ac mae gwaith y dyn dwad yn ardderchog, yn enwedig yr esgyll (a’r ffug enw)! Go dda.

 

3ydd

PRINS HARI A’R PRANGSTERS RWSIAIDD

Ma’r clebar yn embaras – a finne

Am fynnu rhoi rhagflas

I Greta, o’r cega cas;

O ma’ campe o’m cwmpas!

gan HRH

 

Ail

Yr Arlywydd

Ei drydar sy’n embaras  – ei daeru

A’i dwrw sy’n atgas:

Er ei raib, arweinia’r ras

A’i arddull mor ddiurddas.

gan Bernie Sanders

 

1af

Yn arw oerni eirias – y weithred

sathrodd ar berthynas;

yn yr hwyr mae profi’r ias,

yn y bore, embaras.

gan y dyn dŵad

 

Enillydd: Brian Wilkinson

 

 

  1. Hir-a-thoddaid: Gwynt

 

Mân wallau …

Mae angen tipyn o amynedd a chrefft i lunio hir-a-thoddaid, felly llongyfarchiadau i’r dewrion fentrodd arni! Falle oherwydd hyd y llinellau, mae nifer rywsut wedi llithro unwaith neu ddwy; er enghraifft Shoni, sy’n agor gyda syniad ardderchog: Hi ddeuai weithiau am sgwrs fach ddiddan, ond yn anffodus mae angen ateb yr ‘dd’ yn ‘ddiddan’, neu mynd am sain ac ateb ‘weithiau’.  Gyda heb ffugenw wedyn, mae’r ddelwedd o’r gwynt fel porthor y tymhorau yn gampus.

 

O ran y rhai sy’n dod i’r brig, bydd angen i Dan Gwrlid ateb yr ‘r’ yn ‘mraw’r arthio’ (mr/rth), ac nid yw ‘am wyrthiau’ (m/rth) yn gwneud hyn; dylai Dulas gofio hefyd mai, a bod yn fanwl gywir, ‘d’ yw sain y ‘t’ ar ôl ‘ll’ fel yn ‘wyllt’.

 

Ar y brig …

3ydd

Gwynt

Yno’n fy llaw fe welaf y lliwiau

a’u rhybudd yn arw, byddwn oriau

dan fwrw a berw’r isobariau;

af dan gwrlid heb unrhyw ofidiau.

Ond yn nhrwch y dϋwch mae dau’n hwylio

ym mraw’r arthio â’u gweddi am wyrthiau.

gan Dan Gwrlid

 

 

2ail

I gofio trychineb y Royal Charter 26.10.1859

 

Ei ofn yn dwrw, ddaeth o’r dyfnderau.

Trawodd wedyn yn wyllt ei hyrddiadau,

a’i wingo hir yn rhwygo’r angorau.

Lluchiodd y bad a llwch oedd bywydau,

ac aur yn gregyn ar gwr hen greigiau.

Cyffrodd, llonyddodd, aeth i’w anheddau.

Ond heno uwch y tonnau yn Nulas

gwewyr galanas yw atgo’r glannau.

gan Dulas

 

 

 

1af

Morgannwg… Gwent… mae oergan y gwyntoedd

Yn udo’n flin dros gomin, trwy gymoedd,

Dros feddau, neuaddau, dros fynyddoedd.

Twrw iasol fu’n rhuo trwy’r oesoedd,

Sŵn bonllefau, sŵn angau, sŵn ingoedd

Yno’n troedio hyd teras a strydoedd

Ar ei rawd, ac yno roedd… cymdogaeth.

Ai ias o hiraeth sy’n siglo’r siroedd?

gan  Y Milwr Bychan

 

 

Enillydd: Rhys Powys

 

 

 

 

  1. Englyn: Anrhydedd

 

Mân wallau …

Pethau da iawn gan yr isod i gyd, mae’n werth felly tynnu sylw at y llithriadau bach:

 

Llygad-dyst: cofiwch mai ‘t’ yw’r sain pan fo ‘d’ a ‘h’ yn dod at ei gilydd fel hyn: ‘o’i gweld-hi’

 

Bwlch: bydd angen osgoi’r ‘dybryd sain’ sydd yn y llinell glo ‘diflannodd a ffodd ein ffydd’

 

Tomi: bydd angen ateb y ‘d’ yn ‘gydwybod’ yn y llinell ‘ac aberth dy gydwybod’

 

 

Ar y brig …

Dwi wrth fy modd gyda syniad Gwyrosydd am eistedd i weld y wawr cyn codi i droi allwedd drws y dydd. Mae’r cyfeiriad wedyn at faint aberth Tomi yn gynnil a dwi’n cymryd mai at y boen meddwl a’r gofid sy’n dod i filwyr wedi’r frwydr wrth gael arteithio gan y cof am faes y gad. Dwi’n amau mai’r un yw Brenhinwr a Phriodfab, yn sicr yr un awen sydd ganddynt.

 

3ydd

Anrhydedd

Gweld y wawr a gweld ei wedd – sy’n bleser

A blas o anrhydedd,

Yn ei swyn cymeraf sedd

Yn dywyll – cyn trio’r allwedd.

gan Gwyrosydd

 

 

Ail

Anrhydedd

O’i wisgo ar ei wasgod ‐ mae’n arwydd,

Mae’n arwr anghydfod,

Yn nhir neb lladd ydyw’r nod

A’i aberth, ni chawn wybod.

gan Tomi

 

Cydradd 1af

Anrhydedd

Gornest y bryddest ddaeth â’r bri – molawd

melys y coroni

a nodyn o’i Mawrhydi,

mae y bardd yn MBE.

gan Brenhinwr

 

Anrhydedd

A ddaw amlen eleni? Dwi’n addo,

Dwi’n haeddu ‘nghlodfori.

Fe ddylwn gael f’addoli.

O Mam Bach – dwi’n MBE!

gan Y Priodfab

 

Cyd-enillwyr:  John Lloyd (Brenhinwr) 

a Rhys Powys (Y Priodfab)

 

 

 

 

  1. Limrig neu bennill digri: Y Trên

 

Mae’n hen jôc rhwng Emyr Davies a ninnau sy’n ceisio dysgu’r canu caeth yng Nghaerfyrddin bod ein disgyblion yn yr eisteddfod flynyddol yn pentyrru’r cynigion yn adran y LIMRIG – a ninnau’n gwneud ein gorau glas i oleuo pawb ar ddirgelion y gynghanedd! Dwi wrth fy modd felly eich bod chi, yng Nghaerdydd, lawn mor limrigaidd â’n criw ni!

 

Fodd bynnag, nid yw llunio limrig na phennill mor hawdd ag y mae’n ymddangos. Mae angen miniogi’r glust i guriad naturiol llinellau (ac mae hynny’n fwy na chyfri sillafau). Ta waeth, diolch i bawb am ymdrechion difyr. Gall Joe Marler ddiolch nad Alun Wyn Jones sy’n beirniadu!

 

Ar y brig

3ydd

A finne’n moyn mynd lawr i Lunden,

Meddyliais am logi malwoden –

     ‘Swn i yno lot cynt

      Na mentro fy mhunt

A gwneud stint ar drèn o Lanisien.

gan B. Ching

 

Ail

Fe ganwn glod i’r Metro gwych

sy’n llawn o ryfeddodau.

Ni fydd y cynllun yn dal dŵr,

y trên fydd heb doiledau.

gan Oddi ar y cledrau

 

1af

Mi gymres Great Western i Lunden

Am bris oedd yn dipyn o fargen!

Heb air o anwiredd

‘Roedd lle i mi eistedd

Mewn cyntedd, a’n nhin ar y gledren!

gan Arriva

 

Enillydd: Mererid Jenkins

 

 

 

 

  1. Y Gadair

Cywydd neu unrhyw gerdd gaeth, dim mwy na 18 llinell:  Chwedl

 

Mentrodd 10 ar gystadleuaeth y Gadair. Mae hynny ynddo ’i hunan yn rhoi lle i Ysgol Farddol Menter Caerdydd ymfalchïo yn ei gwaith. Cawn fynd i bob math o gyfeiriadau yng nghwmni’r beirdd, o hanes Llywelyn Fawr o Fawddwy i Dic Tyrpin, Taliesin, Cidwm a hyd yn oed i chwedl am rywun o’r enw Mererid Hopwood sy’n syrthio’n gaeth i chwarae roulette, cwympo mewn cariad gyda Colin Farrell a marw wrth fwyta pasti. Druan â hi!

 

Cywyddau yw mesur y rhan fwyaf o’r ymdrechion, ond cafwyd awdlau a hefyd un gerdd yn y wers rydd gynganeddol. Digon o amrywiaeth felly.

 

 

Cidwm

Diolch o galon am y cywydd hwn, doeddwn i ddim yn gwybod y chwedl hon. Rhaid canmol cywirdeb y grefft, ac o ymarfer ychydig o ystwythder, dwi’n sicr y daw Cidwm yn gynganeddwr ardderchog.

 

Llewelyn

Mae adeiladwaith y cywydd hwn yn dda gan dynnu’r darllenydd i’r hanes. Dwi’n hoffi arddull y llinell: ‘Hwyrach yr hoffech stori’, ond gwyliwch y llinell ‘A’i thaflu, fel cnu, cnapan’ – bydd angen ateb y ‘p’.

 

 

Greta

Cyferbynnu’r hen a’r ifanc wna’r awdl hon, gyda’r ifanc yn gweld y peryg a’r hen braidd yn ddifater. Llinellau mwyaf effeithiol y gwaith yn aml yw’r rhai symlaf, e.e. ‘weithiau’n fy anesmwytho’; ond dwi’n hoffi hefyd gryfder y cwestiwn ‘A gaf i herio eich gwag oferedd’.

 

Lleidr Pen Ffordd

Yn stori Dic Tyrpin cafwyd un o linellau gorau’r gystadleuaeth: ‘agor coffor y cof’. Da iawn! Cofiwch wrando’n astud ar acen naturiol llinell, yn ddelfrydol mae angen i hwn gydfynd â’r gynghanedd, e.e. yn ‘dry gello’dd gwag yn drwch’, mae’r ‘gello’dd’ (a’r ‘gwag’ o ran hynny) yn mynnu sylw, ond mae’r gynghanedd yn dibynnu ar y ‘dry’.

 

 

Urien

Mae Urien yn gynganeddwr cywir ond mae angen edrych eto ar y llinell ‘O firain Lanfaircaereinion’. (Hyd y gwn i nid ‘Ainion’ oedd y sain gwreiddiol, ac felly bydd hi’n anodd cyfiawnhau hon fel cynghanedd lusg.) Credaf hefyd y byddai’r gwaith yn gryfach heb eiriau anghyfarwydd fel ‘cilyddion’ ac ‘arwrwas’. Fodd bynnag, rhaid nodi bod Urien wedi lllwyddo i grynhoi holl chwedl Taliesin mewn 17 llinell gydag awdl sy’n cynnwys englyn, cywydd ac englyn milwr. Tipyn o gamp!

 

Ffynhonnell Annibynadwy

Yn anffodus i’r beirniad hon, mae hwn yn gywydd da. Ac yn anffodus i’r bardd, mae’n dibynnu braidd ar fod y beirniad a’r bardd yn yr un ystafell – fel mae’r cyfarwyddiadau llwyfan yn ei awgrymu ‘(pwyntio at y beirniad, hohohoho)’. Dyma gynganeddwr rhwydd sy’n agor gyda chwpled sy’n codi chwilfrydedd: ‘Mae’r ffîd ar wikipedia’n/styrio ddiawl o stori dda …’

Y cwbl alla ’i ddweud yw diolch am y dychymyg a diolch mwy am y ffugenw!

 

S Dim Gopeth

Dwi wrth fy modd gyda’r ffordd y mae’r syniad agoriadol o’r lleuad fel ‘gwefus hapus’ yn cydio yn y cwpled clo lle sonnir am ‘ymson gwefusau amser’. Cofiwch fod angen ateb y ‘d’ yn y llinell ‘A sêr i’r fan i wrando’ ac mae angen edrych eto ar ‘y mae llen ar dafod lloer’. Cywydd telynegol, swynol. Da iawn.

 

Ned

Dewisodd Ned ei destun yn dda, oherwydd mae hanes Iolo Morganwg yn chwedlonol ar bob cownt ac mae llinell glo y cywydd da hwn yn crisialu hynny i’r dim: Arwr er pob anwiredd. Caiff neges Iolo Morganwg yr heddychwr sylw arbennig yn y gerdd, ac mae’r anogaeth ‘chwiliwch allwedd i heddwch’ yr un mor bwysig heddiw ag erioed. Mae’r cyferbynnu rhwng y ‘gŵr main’ sydd hefyd yn ‘gawr mewn rhuban gwyn’ yn gelfydd. Celfydd hefyd yw’r modd mae’r gwaith yn ailadrodd y ‘gŵr main’ yn y cwpled clo. Cofiwch nad yw ‘ewch’ yn odli gyda ‘heddwch’ yn anffodus.

 

Jac Abertawe

Fel ffan mawr Joe Allen (gan ymhyfrydu ei fod yn dod o Sir Benfro), a chan edmygu dewrder y bardd am ganu clodydd Abertawe mewn eisteddfod yng Nghaerdydd, mae’r cywydd hwn yn haeddu clod. Yn y llinell ‘E yw saer y campau syn’ – buaswn i wedi rhoi ‘hwn’ ar ei dechrau a mentro’r goddefiad dwbl yn hytrach na’r ffurf ‘e’ sydd, i’m clust i o leiaf, braidd yn annaturiol. Byddai hefyd yn werth ailystyried y llinell ‘Ei iaith hardd daeth i’w harddel’ oherwydd, fel ail linell cwpled, mae’n rhaid iddi fod yn gynghanedd draws a ellid dadlau wrth gwrs ei bod hi, ond mae hi’n taro fy nghlust i yn gryf fel cynghanedd lusg. Fodd bynnag, cefais flas ar y gwaith Jac Abertawe a daeth yn agos iawn i’r brig.

 

 

Ifan Tom

Mae angen sawl darlleniad i werthfawrogi’r gerdd hon. Naws stori arswyd sydd iddi, ond nid y ‘bwci-bo’ honedig yw’r bwgan yn y diwedd. Mae rhyw arswyd arall ar led, difaterwch cymdogion ac esgulustod tuag at ardd y ddaear. Mae hen ŵr sy’n ots i’r cyffredin yn cael ei adael ar y cyrion, a’r bardd yn awgrymu ar ddiwedd y gerdd nad oedd neb yn gwybod beth oedd achos ei ofid. Cerdd yn y wers rydd gynganeddol yw hon a, rhaid cyfaddef, mae’n anodd clywed y cynganeddion bob tro ac mae hynny felly’n mynd yn groes i natur y grefft. Wedi dweud hynny, dyma’r gerdd sydd, yn fy marn i, wedi datblygu ei syniad orau. Bydd y cwpled clo yn aros yn hir yn y cof.

 

Llongyfarchiadau i Ifan Tom. Gobeithio y bydd cyfle iddo ddathlu.

 

Diolch i bawb am gystadlu. Ta ble fyddwch chi’n darllen y neges hon, wedi eich ymynysu neu’n gweithio er budd pawb, mae geiriau Waldo’n gyfarchiad addas i gloi: ‘Gobaith fo’n meistr, rhoed Amser inni’n was’.

 

 

Enillydd: Lewis Evans

 

Llongyfarchiadau i Lewis Evans.  Dyma’r gerdd fuddugol yn ei chyfanrwydd.

 

Chwedl

 

Ar werth yn rhy hir,

o’dd neb yn cymoni’r ardd anniben

yn nhŷ’r dyn a wnaeth am ei hunan…..

I hogiau drwg, doedd wiw i gadw draw,

ta waeth am ddrychiolaethau.

Cam wrth gam drwy’r gât

at annedd yr arswyd dienw,

a drwy’r mieri, lled-weld y Bwci Bo –

Wir yr, siŵr iawn.

A wedyn adrodd, yn ein diniweidrwydd,

Yr hyn oedd yn awr yn wirionedd i ni:

fod ‘sbrydion rheibus, dolefus ar led,

a heno’n dod amdanom –

Ond os cododd y meirwon, ddihunon ni ddim…..

Maddau ni ein mabinogi di-nam,

yn ddedwydd yn ein breuddwydion –

Hen ŵr y lloer arall oedd

yn lleuad oer dy hunlle di.

 

Ifan Tom