Dawns a Drama Bach y Dre!
Pris: £8
Dewch i ymuno â'r perfformwyr Mia a Fflur mewn gweithdy drama, Derbyn - Bl 2, bob dydd Sadwrn yn yr Hen Lyfrgell yng Nghaerdydd!
Come and join performers Mia and Fflur for a drama workshop, Reception - Yr2, every Saturday at the Old Library in Cardiff!
Provisional Spaces Available: 25
Taith Natur i Blant
Bl 2-6 Mae amrywiaeth helaeth o blanhigion ac anifeiliaid y gallwch eu gweld ym Mharc Biwt – dere am dro gyda Alex o’r Ymddiriedolaeth Natur De a Gorellewin Cymru, am daith hwyliog, hamddenol o gwmpas y parc. Cyfle i edrych a gwrando mas am adar amrywiol yn eu cynefin, wrth werthfawrogi amgylchedd sy’n paratoi at yr Haf!
Bydd angen cwmni oedolyn ar bob teulu ar y daith.
Mae’r antur yn cychwyn wrth gaffi Servini (///mental.pass.pens) am 4:30pm – 5:30pm ar 1/5/24
Pris: Am Ddim
Bwrlwm
Mae Cynllun Chwarae Mynediad Agored Bwrlwm yn rhedeg yn ddyddiol yn ystod pob gwyliau ysgol (heblaw Nadolig) mewn 6 o leoliadau, i'w cadarnhau yn agosach at y dyddiad. Wedi'i anelu at blant oedran cynradd ac am ddim i blant sy'n mynychu, mae'n gynllun cynhwysol ac yn anelu at greu awyrgylch o ddychymyg i blant ar draws Caerdydd. Byddwn yn cynnig llwyfan cyffrous i blant ymgysylltu mewn chwarae creadigol, archwilio eu dawn a sefydlu cyfeillgarwch barhaus)! Mae Menter Caerdydd yn ymrwymo i feithrin cymuned fywiog a chefnogol sy'n gwerthfawrogi llesiant a datblygiad plant, drwy gyfrwng y Gymraeg.
Pris: Am Ddim