Diddordeb mewn Swydd Tiwtor Cymraeg i Oedolion?
Jan 17, 2023
Hoffech chi fod yn diwtor?
Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio fel tiwtor Cymraeg i oedolion, dewch i gwrdd â ni!
Nos Fercher 25 Ionawr, 17:30-18:30 (dros Zoom).
Bydd cyfle i:
- Ddysgu am hanes y maes a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
- Cwrdd â thiwtoriaid cyfredol a chlywed am eu profiadau
Bydd hefyd cyfle i arsylwi gwersi Dysgu Cymraeg Caerdydd yn dilyn y sesiwn hon.
Os hoffech ymuno, neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Jo Robinson, Tiwtor Hŷn Dysgu ac Addysgu: