Swydd Ysgol Plasmawr
Cynorthwy-ydd Addysgu
Cyflog Graddfa 3 SCP 3-6 (£19,453- £20, 644 pro rata*)
Mae Ysgol Plasmawr yn awyddus i benodi Cynorthwy-ydd Addysgu brwdfrydig ac egnïol i ymuno â’r Tîm Cynnal Dysgu. Rydym yn ysgol gyfun 11-18 oed sydd â gweledigaeth glir am gynhwysiant er mwyn galluogi pob disgybl i lwyddo. Cefnogir ystod eang o anghenion dysgu yn y brif ffrwd, yn ogystal ag anghenion emosiynol, ymddygiadol a chymdeithasol ac awtistiaeth. Mae’r ysgol yn gwbl ymroddedig i gefnogi pobl ifanc i aros yn yr ysgol ac i gyflawni eu potensial mewn addysg.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm profiadol o staff ymroddgar a brwdfrydig dan arweiniad y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus rinweddau hanfodol i’r swydd, gan gynnwys dycnwch, amynedd, blaengaredd, creadigrwydd meddwl, hiwmor a’r gallu i weithio’n dda fel aelod o dîm. Disgwylir i ddeiliad y swydd hon i gefnogi disgyblion o fewn dosbarthiadau’r brif ffrwd a hefyd i weithio’n achlysurol yn yr Ardal Cynnal Dysgu gyda disgyblion sydd ag anawsterau amrywiol, gan gynnwys rhai mwy heriol eu hymddygiad sydd angen mewnbwn 1:1 neu mewn grŵp bach.
Mae hon yn swydd a fydd yn cynnig boddhad proffesiynol uchel ac yn rhoi profiad defnyddiol i unigolyn sydd eisiau datblygu gyrfa o fewn y gweithlu addysg. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus lefel uchel o gefnogaeth cydweithwyr o fewn y Tîm Cynnal Dysgu, a phob cyfle i ddilyn trywydd diddordeb penodol o fewn y swydd.
Amodau gwaith: Dydd Llun i Dydd Gwener yn ystod y tymor ysgol yn unig gan gynnwys diwrnodau hyfforddiant mewn swydd. Oriau arferol 8.15am – 3.15pm.
Noder mae cytundeb 12 mis ydi hwn yn y lle cyntaf, bydd cyfleoedd i’w ymestyn neu ei gadarnhau fel contract parhaol a’r ddiwedd blwyddyn gyntaf cyflogaeth i’r ymgeisydd addas.
*Pro rata = proportional / cymesurol
Am wybodaeth bellach am y swydd hon dylid cysylltu gyda Mr Trystan Williams TW@ysgolplasmawr.cymru 029 20 573938.
Dylid anfon ffurflen gais a llythyr sy’n amlinellu eich profiadau blaenorol a’ch cymwysterau ar gyfer y swydd at y Pennaeth Mr John Hayes erbyn Dydd Gwener 20ed Mai 2022 @ 13:00.
**This is an advert for a Welsh medium teaching assistant at Ysgol Plasmawr.