Ysgol Treganna
Ysgol Treganna
Gwyliau Haf 2019
Gwasanaeth Cynllun Gofal i blant dosbarth derbyn i flwyddyn 6 ar agor yn ddyddiol rhwng 8.30am-5.30pm ag eithrio Gwyl y Banc.
Ymddiheurwn ein bod yn cael problemau gyda’n gwasanaeth gofal plant ar ein gwefan ar hyn o bryd.
Rydym yn gweithio gyda www.stills.co.uk ein datblygwyr gwefan er mwyn ceisio datrys y problemau cyn gynted fedrwn ni.
Ni fyddwn yn derbyn unrhyw fwy o archebion ar gyfer Cynllun Gofal yr Haf drwy’r wefan.
Er mwyn archebu lle i’ch plentyn/plant plis ebostiwch:
gwenno@mentercaerdydd.cymru
Os os gennych gyfrif gyda ni yn barod, y cwbl sydd ei angen arnom yw pa ysgol, pa blentyn/blant a’r dyddiau.
Os nad oes gennych chi gyfrif ar hyn o bryd, bydd angen i ni gael mwy o wybodaeth gennych chi, ond cysylltwch gyda gwenno@mentercaerdydd.cymru yn y lle cyntaf gyda’r wybodaeth uchod.
Ymddiheuriadau eto am yr anhawsterau hyn ac am yr anghyfleustra mae hyn wedi ei achosi i chi a’ch teulu.
Gweithgareddau dyddiol – yn cynnwys chwaraeon, coginio, crefft, partion, cornel ddarllen, tripiau, gemau parasiwt a mwy wedi’u teilwra i oed y plant.
Mae archebion a chofrestrau yn cael eu gweinyddu yn ystod oriau swyddfa yn unig:
Llun-Gwener | 9am-5pm (ag eithrio diwrnodau Gŵyl Banc)
DATGANIAD FIRWS CORONA
Wedi ei ddiweddaru: 19/10/2020
Mae diogelwch ein cwsmeriaid, tiwtoriaid a staff yn flaenoriaeth bob amser i ni. O ganlyniad rydym wedi penderfynu canslo ein Cynlluniau Gofal a Bwrlwm dros gwyliau hanner tymor yr Hydref.
Bydd nifer o weithgareddau digidol yn digwydd dros hanner tymor yr Hydref, Cliciwch ar y tab ‘GWEITHGAREDDAU GWYLIAU” am fwy o wybodaeth.
Rydym yn dilyn pob canllaw cyfredol Llywodraeth DU yng nghyd destun COVID-19. Yn naturiol rydym yn monitro’n ddyddiol y cyngor sydd ar gael, ac os cyflwynir canllawiau diwygiedig gan yr awdurdodau perthnasol, yna byddwn yn ymateb a gweithredu ar unwaith. Dismiss