Tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion
Swyddi – Tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion
Ydych chi’n siarad Cymraeg ac yn mwynhau bod yng nghwmni pobl? Os felly, beth am ystyried gweithio fel Tiwtor Cymraeg i Oedolion gyda Dysgu Cymraeg Caerdydd. Rydym yn dysgu o 8am-9pm a gallwch weithio cynlleied neu gymaint ag yr ydych yn dymuno. Brwdfrydedd yw’r prif ofyniad felly peidiwch â phoeni os nad oes gennych gymhwyster dysgu. Cynigir hyfforddiant llawn a chefnogaeth gyson.
Os oes diddordeb gyda chi ac hoffech chi fwy o wybodaeth, cliciwch yma.