If you are experiencing problems paying with a mobile device, please try from a laptop or PC.

Price: Free

A Welsh-lanuage talk on Zoom about Welsh naturalist, traveller, writer and antiquarian, Thomas Pennant.

Roedd Thomas Pennant, y teithiwr a'r naturiaethwr, yn ffigwr rhyngwladol yn ystod ei oes ond yn un a gollwyd yn yr ymwybod Cymreig wedi ei ddyddiau. Ond roedd gan Pennant, fel brodor o sir y Fflint, gysylltiadau arwyddocaol ymhlith ei gydwladwyr hefyd, er i rai ohonynt fynd yn angof yn ddiweddarach. Edrychir yma ar ei berthynas â'r brodyr dylanwadol o Fôn, Lewis, Richard a William Morris, â rheithor rhadlon Caerwys, John Lloyd, ac a'i was o arlunydd, Moses Griffith. At hyn, ceir cyfle i fwrw golwg ar ddylanwad Pennant ar Gymry'r ganrif wedi ei farwolaeth, hyd at gyhoeddi cyfieithiad arloesol yr ysgolhaig John Rhŷs o'i waith mwyaf Cymreig, Teithiau yng Nghymru.

 

Monthly Zoom Talk (October)
Os ydych yn cael trafferth yn talu ar ffôn symudol neu dabled, ceisiwch ar gliniadur yn lle.
Maximum 10 attendees per booking
Please enter the full names of all Attendants including yourself (if applicable)
Please enter your details