Os ydych yn cael trafferth yn talu ar ffôn symudol neu dabled, ceisiwch ar gliniadur yn lle.

Yma ym mhrifddinas Cymru mae diddordeb cynyddol yn y Gymraeg ac mae’n hanfodol bod yr iaith yn weladwy, nid yn unig i ddinasyddion Caerdydd ond hefyd i’r miliynau o ymwelwyr sy’n heidio yma o bell ac agos bob blwyddyn.

Mae’r Gymraeg ar dwf ac mae ystadegau’r Cyfrifiad yn 2011 yn profi hynny. Mae’r iaith i’w chlywed fwyfwy ar hyd y strydoedd ac yn ein cymunedau. Mae cynnydd yn niferoedd y plant, pobl ifanc ac oedolion sy’n siarad ac yn dysgu Cymraeg ac mae angen mwy o ysgolion i ateb y galw cynyddol am gyfleoedd addysg trwy gyfrwng y Gymraeg.

Nid yw’n ddigon i ddibynnu ar dwf mewn addysg Gymraeg yn unig wrth gynllunio dyfodol ieithyddol y ddinas. Mae angen sicrhau cyfleoedd cymdeithasol tu allan i oriau’r ysgol er mwyn i’r plant a’r bobl ifanc ddefnyddio’r Gymraeg a’i gweld hi fel iaith fyw.

Sefydlwyd Menter Caerdydd yn 1998 gyda’r nod o hyrwyddo ac ehangu defnydd y Gymraeg yng Nghaerdydd drwy greu cyfleoedd i drigolion y ddinas ddefnyddio’r iaith y tu allan i oriau gwaith a muriau’r ysgol.

Mae sefyllfa’r Gymraeg yn dra gwahanol yng Nghaerdydd i’r hyn oedd hi pan sefydlwyd y Fenter. Gellir dweud yn hyderus fod Menter Caerdydd wedi chwarae rhan flaenllaw yn cefnogi, ac yn wir ar adegau, yn arwain y cynnydd yn y defnydd o’r Gymraeg ar draws y ddinas.

Byddwn yn adlewyrchu anghenion cymunedau gwahanol er mwyn parhau i gael effaith gadarnhaol ar gefnogi, hyrwyddo a chynyddu defnydd cymunedol y Gymraeg yn ein prifddinas.

Felly wrth gynllunio ein strategaeth newydd rydym wedi bod yn ymwybodol o’r angen i fod yn glir ar ble all y Fenter wneud y cyfraniad mwyaf ar gyfer y cyfnod nesaf er mwyn parhau i adeiladu ar y cynnydd.

UCHELGAIS

Y Gymraeg yn dod yn rhan ganolog o fywyd Caerdydd.