Os ydych yn cael trafferth yn talu ar ffôn symudol neu dabled, ceisiwch ar gliniadur yn lle.

Swydd Ieuenctid gyda Menter Caerdydd

Dec 1, 2025

Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig sydd yn hoff o weithio gyda phobl ifanc. Bydd y swydd hon yn cyfrannu’n sylweddol i bartneriaerth CFTi (Menter Caerdydd, yr Urdd a Chyngor Caerdydd) gan ganolbwyntio ar ddarpariaeth ieuenctid yn nwyrain y ddinas

Lleolir y swydd hon yn bennaf yn swyddfa Menter Caerdydd, Yr Hen Lyfrgell, Yr Ais, Caerdydd ond bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio’n estynedig yn Ysgol Bro Edern ac mae hyblgrwydd i weithio’n hybrid.

 

Cyflog:

£25,886-£30,009

 

(yn ddibynnol ar brofiad)

 

Oriau gwaith:

 

35 awr yr wythnos

 

 

Am sgwrs bellach e-bostiwch:

heulyn@mentercaerdydd.cymru