Os ydych yn cael trafferth yn talu ar ffôn symudol neu dabled, ceisiwch ar gliniadur yn lle.

Trefnir Bwrlwm, ein gwasanaeth chwarae agored gwyliau, mewn cydweithrediad â Chyngor Caerdydd.

Trefnir y gweithdai gwyliau mewn partneriaeth rhwng Menter Caerdydd, Adran Chwaraeon Urdd Gobaith Cymru, Coleg Caerdydd a’r Fro, a Chyngor Caerdydd.

Mae’r archebion yn cael eu gweinyddu yn ystod oriau swyddfa yn unig: 9am-5pm Llun-Gwener (ag eithrio diwrnodau Gŵyl Banc) 

Bwrlwm Lleoliadau Pasg 2025

Dere i chwarae am ddim yn Bwrlwm dros wyliau'r Pasg - bydd croeso mawr ym mhob un o'r 6 lleoliad i blant ar draws y ddinas! 

Pris: Am Ddim

Bwrlwm Pasg!

Rydym yn brysur trefnu a pharatoi gweithgareddau ar gyfer Bwrlwm Pasg! Cyfle i blant fwynhau arlwy eang o weithgarwch neu chwarae yn rhydd - mae rhywbeth at ddant pawb, mewn 6 lleoliad! Mwy o fanylion cyn bo hir!

Pris: Am Ddim