Gweithdy Gwyddoniaeth Nadolig Pencae gyda Sparklab
PENCAE! Bydd y gweithdy Nadolig yn cynnwys amrywiaeth o arddangosiadau gwyddonol hwyliog ac arbrofion ymarferoli ennyn diddordeb ac ysbrydoli!
Pris: £11
Gweithdy Gwyddoniaeth Nadolig Pwll Coch gyda Sparklab!
PWLL COCH Bydd y gweithdy Nadolig yn cynnwys amrywiaeth o arddangosiadau gwyddonol hwyliog ac arbrofion ymarferol i ennyn diddordeb ac ysbrydoli!
Pris: £11
Nadolig Ddoe a Heddiw
SIOE I'R TEULU!
Plentyn heddiw yn creu rhestr anferth i Sion Corn. Y delwythen deg yn camu oddi ar y goeden Nadolig, yn dod yn fyw ac yn mynd a hi/fo yn ol mewn amser i ddangos sut fydde plant yn arfer dathlu'r Nadolig yng Nghymru. Trwy allu mynd yn ôl mewn amser, byddwn yn gweld rhai o arferion y Nadolig yng Nghymru e.e ffermwyr y gororau yn troi eu gwartheg tuag at y Dwyrain, ac yn credu fod yr anfeiliaid yn gallu siarad; creu taffi ac olrhain hanes y pwdin plwm; plygain a chanu carolau a.y.y.b. Yn ogystal â'r doniol, bydd hefyd modd edrych ar gyfnodau anodd mewn hanes - plant yn dlawd ac yn derbyn bach iawn o anrhegion Nadolig.Bydd yna ganeuon yn rhan o'r sioe ynghyd â dawnsio.
Ymunwch gyda ni ar gyfer sioe ddoniol a dwys ar adegau ar gyfer y teulu cyfan.
Dyma daith hudolus drwy Nadoligau’r gorffennol trwy lygaid plentyn heddiw.
Pris: £5
Drama Mawr y Dre!
Dewch i ymuno â Fflur a Niamh mewn sesiynau drama ar foreau Sadwrn! Diddordeb mewn perfformio, sgriptio, neu gefn llwyfan, dyma’r clwb i ti!
Pris: £25
Dawns a Drama Bach y Dre!
LLAWN! Dewch i ymuno â Fflur a Niamh mewn sesiynau hwyliog dawns a drama ar foreau Sadwrn! Sesiynau llawn hwyl i fagu hyder corfforol a llafar!
Pris: £20