Telerau bwcio:
-
Rhaid bwcio ar lein - ni ellir derbyn plant oni bai fod archeb trwy’r wefan wedi ei dderbyn – ni allwn dderbyn plant ar y safle sydd heb archeb wedi ei gofrestru o flaen llaw.
-
Gwiriwch eich archeb yn ofalus os gwelwch yn dda, dydyn ni ddim yn cynnig ad-daliad os byddwch yn canslo’r archeb ac os nad yw eich plentyn yn mynychu ar y diwrnod.
-
Os ydych yn talu gyda talebau gofal plant, rhaid rhoi manylion llawn y talebau wrth archebu. – enw’r cwmni sy’n darparu’r taleb, enw’r oedolyn/cyfrif, enw’r plentyn/plant, rhif y cyfrif. Disgwylir i chi drefnu’r taliad gyda’r cwmni wrth archebu.
- Eich cyfrifoldeb chi fel rhiant/gwarcheidwad yw nodi unrhyw gyflyrau meddygol, alergeddau neu anghenion ychwanegol sydd gan eich plentyn ar y ffurflen gofrestru. Bydd ein staff ar y safle yn newid yn ddyddiol felly mae’n holl bwysig eich bod yn ein hysbysu ar y ffurflen gofrestru ar lein.
-
Wrth gytuno i’r telerau rydych yn arwyddo eich bod wedi darllen ein polisiau mynediad ac yn eu derbyn.