Os ydych yn cael trafferth yn talu ar ffôn symudol neu dabled, ceisiwch ar gliniadur yn lle.

Bwrlwm Sulgwyn/ Whitsun 2023!

Pris: Am Ddim

Mae ein cynllun chwarae Bwrlwm nol dros hanner tymor mewn chwech lleoliad ar draws Caerdydd, o ddydd Mawrth tan dydd Gwener. Arlwy difyr a gweithgareddau at ddant pob plentyn - celf a chrefft, chwaraeon, lego, gemau bwrdd, antur adeiladu den a chwilio am drychfilod! Bydd byrbrydau iachus ar gael hefyd! Cysylltwch gyda mari@mentercaerdydd.cymru am fwy o wybodaeth am faterion anghenion cefnogi.

Bwrlwm!

Bwrlwm!

Mae Cynllun Chwarae Mynediad Agored Bwrlwm yn rhedeg yn ystod pob gwyliau ysgol (heblaw Nadolig)

Wedi'i anelu at blant oedran cynradd ac am ddim i blant sy'n mynychu.
6 o leoliadau yn ddyddiol!

Mae Menter Caerdydd yn ymrwymo i feithrin cymuned fywiog a chefnogol sy'n gwerthfawrogi llesiant a datblygiad plant, trwy gyfrwng y Gymraeg.

WELWN NI CHI DROS HANNER TYMOR YR HYDREF!

Pris: Am Ddim