Clwb Ffasiwn 10 Wythnos
Pris: £60
Yn y cwrs ffasiwn 10 wythnos hwn byddwch yn cael eich cyflwyno i'r hanfodion dylunio ffasiwn drwy ymchwil, dogfennu syniadau trwy lyfrau braslunio a dysgu ffyrdd creadigol o ddarlunio ffasiwn.
Byddwch yn datblygu eich darluniadau a chreu samplau ffabrig a fydd yn helpu i ddylunio sgiliau cyflwyno ar gyfer eich portffolio!
Yn addas i pobl ifanc 14-18 yn unig.
*Clwb wythnosol yn eithrio gwyliau ysgol.
Clwb Celf gyda Lowri Roberts!
Tirluniau'r nos
Dewch i ddarlunio tirluniau'r nos gan gymryd ysbrydoliaeth o'r arlunydd Cymreig Ernest Zobole a thirlun Caerdydd.
Pris: £10.00
Gweithdy Gwyddoniaeth gyda Sparklab Hamadryad!
LLAWN - HAMADRYAD!
Mae’n gyfnod dathliadau tân gwyllt! Dere i ddarganfod y byd lliwiau mewn gwyddoniaeth! Bl1-6!
Pris: £12.00
Dawns a Drama Bach y Dre!
LLAWN!
Dewch i ymuno â Kim ac Anest mewn sesiynau hwyliog dawns a drama ar foreau Sadwrn!
Sesiynau llawn hwyl i fagu hyder corfforol a llafar!
Pris: £35.00
Drama Mawr y Dre!
Dewch i ymuno â Kim ac Anest mewn sesiynau drama ar foreau Sadwrn!
Perfformio, sgriptio, neu gefn llwyfan, dyma’r clwb i ti!
Pris: £40.00
Gweithdy Gwyddoniaeth gyda Sparklab Berllan Deg!
LLAWN - BERLLAN DEG!
Mae’n gyfnod dathliadau tân gwyllt!
Dere i ddarganfod y byd lliwiau mewn gwyddoniaeth!
Pris: £12.00
LLAWN - Clwb Gwyddbwyll!
LLAWN!
Clwb gwyddbwyll cynhwysol a chyfeillgar ar gyfer plant sy’n dechrau, neu’n fwy profiadol! Bl 3-7.
Pris: Am Ddim
Bwrlwm Hydref!
Mae Cynllun Chwarae Mynediad Agored Bwrlwm yn rhedeg yn ystod pob gwyliau ysgol (heblaw Nadolig)
Wedi'i anelu at blant oedran cynradd ac am ddim i blant sy'n mynychu.
6 o leoliadau yn ddyddiol!
Mae Menter Caerdydd yn ymrwymo i feithrin cymuned fywiog a chefnogol sy'n gwerthfawrogi llesiant a datblygiad plant, trwy gyfrwng y Gymraeg.
WELWN NI CHI DROS HANNER TYMOR YR HYDREF!
Pris: Am Ddim
.png)





