Os ydych yn cael trafferth yn talu ar ffôn symudol neu dabled, ceisiwch ar gliniadir yn lle.

Event Not Found

Bwrlwm Hydref 2023 Cyff

Mae Cynllun Chwarae Mynediad Agored Bwrlwm yn rhedeg yn ystod pob gwyliau ysgol (heblaw Nadolig) - daeth dros 2000 i fwynhau yr arlwy dros yr Haf!

Wedi'i anelu at blant oedran cynradd ac am ddim i blant sy'n mynychu. Mae'n gynllun cynhwysol ac yn anelu at greu awyrgylch o ddychymyg i blant ar draws Caerdydd. Byddwn yn cynnig llwyfan cyffrous i blant ymgysylltu mewn chwarae creadigol, archwilio eu dawn a sefydlu cyfeillgarwch barhaus. 6 o leoliadau (i'w cadarnhau) yn rhedeg dros hanner tymor yr Hydref! Mae Menter caerdydd yn ymrwymo i feithrin cymuned fywiog a chefnogol sy'n gwerthfawrogi llesiant a datblygiad plant, drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cysylltwch gyda mari@mentercaerdydd.cymru am wybodaeth ar anghenion ychwanegol.

Pris: Am Ddim