Os ydych yn cael trafferth yn talu ar ffôn symudol neu dabled, ceisiwch ar gliniadur yn lle.

Pris: Am Ddim

Aethoch chi i ysgol gyfun Gymraeg ond does dim digon o hyder gyda chi i ddefnyddio eich Cymraeg? Hoffech chi gyfle i ymarfer a gwella'ch Cymraeg gyda phobl sydd yn yr un cwch â chi. Os felly, ymunwch â'r cwrs 10 wythnos yma! Mae AM DDIM hefyd felly beth amdani?

 Dyw'r cwrs yma ddim yn addas i ddysgwyr Cymraeg h.y. pobl sydd wedi dysgu trwy'r system Dysgu Cymraeg (Cymraeg i oedolion).

Cwrs Codi Hyder

Nos Fercher, 17.30–19.30

22/04/26 – 01/07/2026

Adeilad John Percival, Prifysgol Caerdydd, Colum Drive, CF10 3EU

I gofrestru ar y cwrs, cliciwch yma: Cofrestru

Mae croeso i chi ebostio tiwtor y cwrs, Rosie Berry, os oes unrhyw gwestiynau gyda chi: Berryra@caerdydd.ac.uk

Cwrs Codi Hyder
LISEFielddefValue Object ( [storage:ArrayObject:private] => Array ( ) ) 1