Heini Gyda'm Babi
Pris: £27.50
Dere a dy fabi gyda ti i ymarfer corff, gyda'r hyfforddwr personol ffantastig, Kathryn Thomas. Cyfle i deimlo'n iach, gwella dy ffitrwydd a gwneud ffrindiau newydd.
6 sesiwn, bob bore Gwener, yn dechrau ar 10 Tachwedd.
Bydd y sesiynau yn bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg, ond mae croeso i ddysgwyr.
NODWCH: Rhaid dod a mat ymarfer eich hunan.
Cofia drafod gyda dy feddyg / bydwraig / ymwelydd iechyd cyn dechrau dosbarth ymarfer corff newydd. Darllennwch yr Asesiad Risg Heini gyda'm Babi Risk Assessment 1-11-23

Provisional Spaces Available: 7
Llangrannog 2024 - Blaendal
Penwythnos Teulu Llangrannog: 22 - 24 Mawrth 2024. Hwyl ac antur i'r teulu cyfan yng Ngwersyll yr Urdd!
Pris: £50
Nadolig Ddoe a Heddiw
SIOE I'R TEULU!
Plentyn heddiw yn creu rhestr anferth i Sion Corn. Y delwythen deg yn camu oddi ar y goeden Nadolig, yn dod yn fyw ac yn mynd a hi/fo yn ol mewn amser i ddangos sut fydde plant yn arfer dathlu'r Nadolig yng Nghymru. Trwy allu mynd yn ôl mewn amser, byddwn yn gweld rhai o arferion y Nadolig yng Nghymru e.e ffermwyr y gororau yn troi eu gwartheg tuag at y Dwyrain, ac yn credu fod yr anfeiliaid yn gallu siarad; creu taffi ac olrhain hanes y pwdin plwm; plygain a chanu carolau a.y.y.b. Yn ogystal â'r doniol, bydd hefyd modd edrych ar gyfnodau anodd mewn hanes - plant yn dlawd ac yn derbyn bach iawn o anrhegion Nadolig.Bydd yna ganeuon yn rhan o'r sioe ynghyd â dawnsio.
Ymunwch gyda ni ar gyfer sioe ddoniol a dwys ar adegau ar gyfer y teulu cyfan.
Dyma daith hudolus drwy Nadoligau’r gorffennol trwy lygaid plentyn heddiw.
Pris: £5
Heini Gyda'm Babi
* PRIS GOSTYNGEDIG AM 5 SESIWN. Dere a dy fabi gyda ti i ymarfer corff! Sesiynau ymarfer corff ôl-enedigol gyda Kathryn Thomas.
Pris: £27.50
Calendr Teulu: Sesiynau i blant o dan 4
Rhestr o weithgareddau ar gyfer plant o dan 4 a’u rhieni / gwarchodwyr yng Nghaerdydd.
Pris: Am Ddim
Deffro’r Synhwyrau
Dewch i weld, clywed, arogli ac archwilio gyda Gwennan yn Hyb Rhydypennau.
Pris: Am Ddim