Pris: Am Ddim
Sgwrs ar Zoom.
Y tro hwn, bydd Dr Siwan Rosser o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd yn ein cyflwyno i'r nofel Teulu Bach Nantoer a'i hawdur Moelona. Yn enedigol o Sir Aberteifi, roedd Moelona yn athrawes yng Nghaerdydd pan luniodd y nofel hon i blant. Ei bwriad oedd cynnig stori swynol a fyddai'n denu plant Cymru i ddarllen Cymraeg a hynny ar adeg pan oedd pryderon am ddyfodol yr iaith ar gynnydd.
Croesewir cyfraniadau o £20 am holl sgyrsiau 2026 neu £5 ar gyfer sgwrs unigol. Gellir talu trwy ddewis 'Hoffwn gynnwys rhodd' wrth gofrestru.
Os ydych yn cael trafferth yn talu ar ffôn symudol neu dabled, ceisiwch ar gliniadur yn lle.