Pris: Am Ddim
Taith i fyd Thomas Pennant a'i gymdeithion Cymraeg
Roedd Thomas Pennant, y teithiwr a'r naturiaethwr, yn ffigwr rhyngwladol yn ystod ei oes ond yn un a gollwyd yn yr ymwybod Cymreig wedi ei ddyddiau. Ond roedd gan Pennant, fel brodor o sir y Fflint, gysylltiadau arwyddocaol ymhlith ei gydwladwyr hefyd, er i rai ohonynt fynd yn angof yn ddiweddarach. Edrychir yma ar ei berthynas â'r brodyr dylanwadol o Fôn, Lewis, Richard a William Morris, â rheithor rhadlon Caerwys, John Lloyd, ac a'i was o arlunydd, Moses Griffith. At hyn, ceir cyfle i fwrw golwg ar ddylanwad Pennant ar Gymry'r ganrif wedi ei farwolaeth, hyd at gyhoeddi cyfieithiad arloesol yr ysgolhaig John Rhŷs o'i waith mwyaf Cymreig, Teithiau yng Nghymru.

Os ydych yn cael trafferth yn talu ar ffôn symudol neu dabled, ceisiwch ar gliniadur yn lle.