Os ydych yn cael trafferth yn talu ar ffôn symudol neu dabled, ceisiwch ar gliniadur yn lle.

Pris: Am Ddim

Sgwrs am Gyfraith Hywel Dda.

Yr Athro Sara Elin Roberts fydd gwestai Sgwrs y Mis y tro hwn. 

Testun ei sgwrs bydd Cyfraith Hywel, system gyfreithiol Cymru'r Oesoedd Canol. Roedd hon yn system arbennig i Gymru, wedi ei chreu gan gyfreithwyr ar gyfer cyfreithwyr, a'r bwriad y tu ôl i'r gyfraith oedd sicrhau bod y gymdeithas yn gweithio yn esmwyth, a chadw perthynas rhwng pobl.

Ceir felly llu o enghreifftiau o fywyd bob dydd ac ymwneud pobl â'i gilydd, a chawn olwg ar rai o'r golygfeydd hyn yn ystod y drafodaeth. Er ei fod yn adlewyrchu cyfnod sy'n bell yn ôl, mae Cyfraith Hywel yn dangos mai'r un yw pobl ar hyd yr oesoedd. (Awgrymir cyfraniad o £5 y sgwrs)

Yn addas ar gyfer dysgwyr Uwch/Gloywi.

Gwerthfawrogwn gyfraniadau gwirfoddol tuag at redeg y cynllun os nad ydych wedi ymaelodi â Sgwrs y Mis yn barod drwy dalu £20 am y flwyddyn.  Diolch.

Sgwrs y Mis: Medi
Os ydych yn cael trafferth yn talu ar ffôn symudol neu dabled, ceisiwch ar gliniadur yn lle.
Mae uchafswm o 10 o fynychwyr fesul archeb
Nodwch enwau llawn y holl fynychwyr (gan gynnwys chi eich hun os yw'n berthnasol)
Rhowch eich manylion