Pris: Am Ddim
Nodi 100 mlynedd ers geni Richard Burton.
I nodi 100 mlynedd ers geni Richard Burton, bydd Dr Gethin Matthews yn olrhain hanes yr actor o Bontrhydyfen gan ganolbwyntio ar ei gysylltiadau a'i agwedd at Gymru. Yn y sgwrs, 'Richard Burton: Seren Cymru?', bydd Gethin yn edrych o'r newydd ar y dystiolaeth a gasglodd wrth ysgrifennu ei fywgraffiad o'r actor 25 mlynedd yn ôl, ac yn trafod perthynas gymhleth Richard â'i famwlad. Bryd hynny, fe awgrymodd mai Richard oedd y llysgennad gorau oedd Cymru wedi'i gael erioed: a ydy'r asesiad hynny dal yn wir?
Os hoffech gyfrannu at gostau cynllun Sgwrs y Mis gellir gwneud hynn trwy wasgu 'Hoffwn Gynnwys Rhodd' wrth gofrestru.
Os ydych yn cael trafferth yn talu ar ffôn symudol neu dabled, ceisiwch ar gliniadur yn lle.