Os ydych yn cael trafferth yn talu ar ffôn symudol neu dabled, ceisiwch ar gliniadur yn lle.

Pris: Am Ddim

Teithiau wedi'u teilwra ar gyfer dysgwyr

Digwyddiad ar y cyd â Dysgu Cymraeg Caerdydd a'r Amgueddfa.

I gofrestru, defnyddiwch y ffurflen yma: Ffurflen Gofrestru Dysgu Cymraeg Caerdydd - Amgueddfa

 

10.00 - 11.00 - Mynediad a Sylfaen 
11.30 - 12.30 - Canolradd ac Uwch


Ymunwch â ni yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar gyfer taith wedi’i chynllunio’n arbennig ar gyfer dysgwyr Cymraeg. Cewch eich tywys o amgylch yr orielau celf yn Gymraeg i weld casgliad celf cenedlaethol Cymru, gyda chyfle i fagu hyder wrth sgwrsio gyda siaradwyr Cymraeg eraill a dysgu geirfa newydd.  Bydd y daith hon yn cynnig cyfle i chi ymarfer eich Cymraeg mewn awyrgylch gyfeillgar a chefnogol gan eich galluogi i ddysgu a mwynhau beth bynnag eich lefel.



Taith Dywys Amgueddfa Cymru - Siaradwyr Newydd