Pris: Am Ddim
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am rai o'r sesiynau anffurfiol i siaradwyr Cymraeg o bob lefel sy'n cael eu cynnal yng Nghaerdydd. Mae rhai yn cael eu trefnu gan Menter Caerdydd ac eraill yn rhedeg yn annibynnol.
Mae'r rhan fwyaf o'r grwpiau hyn yn addas ar gyfer dysgwyr a siaradwyr rhugl.
Os ydych chi'n rhedeg grŵp nad yw'n cael ei gynnwys yma – cysylltwch! Rydym yn ymdrechu i gadw'r wybodaeth yn gyfredol felly plis gadewch wybod os bydd manylion y sesiynau'n newid. (Cyswllt: Rachel)
DYDD SUL
Cymraeg a Phaned ar-lein - digwyddiad misol a drefnir gan GM Notebooks. Am fwy o wybodaeth:Facebook (email) GM Notebooks
Clwb Clonc, 11.30-12.30 bob dydd Sul. Cyfle i ymarfer gyda dysgwyr erail. Arthouse, Alexandra House 307-315 Cowbridge Road East, CF5 1JD. Mae croeso i ddysgwyr o unrhyw lefel.
DYDD LLUN
Criw'r Village Inn, Pentwyn, CF23 8AJ -10.30yb - Cyfle i siaradwyr Cymraeg o bob gallu sgwrsio ac ymarfer eu Cymraeg.
Clonc Bore Llun. Yr Awr Hapus. Yn cwrdd bob bore Llun am 10.45-11.45 yn nhafarn yr Hollybush, Coryton / yr Eglwys Newydd rhwng 10.45 a 11.45.
Cysylltwch â Gwilym
Clonc yn y Cwtsh
Criw hwyliog sy'n cwrdd i sgwrsio yn Chapter ar nosweithiau Llun o 7.00yh. Croeso i bawb. Os ydych chi'n meddwl dod am y tro cyntaf, cysylltwch â Rachel a bydd hi'n pasio eich manylion ymlaen at y trefnwyr: Rachel
Sesiwn Gymraeg
Bob nos Lun yn nhafarn yr Albany, Donald Street, Y Rhath
7 o'r gloch tan yn hwyr. Sesiwn anffurfiol a chyfle i gael sgwrs dros ddiod.
DYDD MAWRTH
- Grŵp sgwrsio anffurfiol sy'n cwrdd yng nghaffi Castell Caerdydd. 10.30-11.30yb. Noder mae hwn yn grŵp sefydledig ar gyfer dysgwyr rhugl. I ymuno: Rachel
- Grŵp sgwrsio yn dechrau yn Hyb Llaneirwg bob yn ail wythnos o fis Mehefin. Am fwy o wybodaeth: Rachel
- Clonc yn y Bae
Cyfle i ymarfer siarad Cymraeg mewn awyrgylch gyfeillgar ac anffurfiol yng nghwmni Mair a'r criw. Mae'r grŵp yn cwrdd mewn caffi ym Mae Caerdydd am 2.00 y prynhawn. Cysylltwch â Rachel i gael manylion cyswllt Mair, y trefnydd.
- Clwb Darllen Misol
Cwrdd bob nos Fawrth yng nghanol y ddinas. Cysyllta â Grwp Darllen i gael manylion y trefnydd. Yn addas ar gyfer siaradwyr rhugl a dysgwyr lefel uwch.
DYDD MERCHER
- Grŵp Darllen Cant a Mil – 1.30-3.00yp bob dydd Mercher yng Nghaffi Blake & Brew, 142 Whitchurch Road, CF14 3NA.
Am fwy o fanylion: 029 2021 2474 neu Jo
- Clonc yn Hyb (Llyfrgell) Radur
2.00-3.00yp yng nghwmni Ann a Ken Passmore. Rhif y Hyb yw 029 2078 0996. Yn ystod y tymor ysgol yn unig - dim yn ystod gwyliau'r ysgol. Poster fan hyn gyda'r dyddiadau: Coffi a Chlonc
- Grŵp Sgwrsio Llys-faen - Llyfrgell Canolfan Gymunedol yr Hen Ysgol, CF14 0UD. 2.00-3.00yp. Cyfle i siaradwyr rhugl a dysgwyr ddod at ei gilydd am baned a sgwrs. Cysylltwch â Rachel i gael manylion y trefnydd.
DYDD IAU
- Grŵp Sgwrsio Hyb Rhydypennau i siaradwyr rhugl a siaradwyr newydd: Bob yn ail wythnos am 10.30-11.30. Does dim rhaid bwcio - dewch ar y diwrnod! Dyddiadau i'w gweld ar y dudalen yma: Coffi a Chlonc
Am fwy o wybodaeth - Rachel
- Yr wythnos pan na fydd grŵp Rhydypennau'n cwrdd, mae sesiwn sgwrsio yn nhafarn y Pendragon, Y Draenen (Thornhill) am 2.00 o'r gloch.
- Clwb Llyfrau wedi'i drefnu gan Theatr Common Wealth yn Neuadd Llanrhymni (10:30-11:30). E-bostiwch Camilla cyn mynd gan fnad yw'r grŵp yn cwrdd bob wythnos. Gwybodaeth bellach a manylion cyswllt. YN DECHRAU 24/09/26
- Pear Tree, Heol Wellfield, CF24 3PE - Croeso i bawb sy'n siarad Cymraeg neu'n dysgu. 11:00yb. (2 grŵp - hyderus / llai hyderus)
- Clonc yng Nghastell Caerdydd rhwng 1.00 a 2.00 y prynhawn. Croeso i bawb ymuno â ni am sgwrs. Cysylltwch â Gwilym am fwy o fanylion.
DYDD GWENER
- Brecwast Cymraeg Cant a Mil, bob dydd Gwener
9:00-10:00yb yng Nghaffi One2Two, 122, Whitchurch Road, CF14 3JN. Croeso mawr i bawb!
Am fwy o fanylion: 029 2021 2474 neu Jo
- Clwb Sgwrsio Cymraeg (Mynediad) Hyb Rhiwbeina wedi'i anelu at siaradwyr llai hyderus. Does dim angen bwcio ond am fwy o fanylion: Rachel
Bob yn ail fore Gwener - 10.30-11.30yb. Dyddiadau i'w gweld fan hyn: Coffi a Chlonc
- Bore Coffi Misol i Ddysgwyr ar Zoom wedi'i drefnu gan Menter Caerdydd a Dysgu Cymraeg Caerdydd. I ymuno: Rachel
- Bore Coffi Cymraeg Eglwys Efengylaidd Gymraeg Caerdydd - Cyfle i gymdeithasu yn y Gymraeg mewn bore coffi anffurfiol - Capel y Tabernacl, 81 Heol Merthyr, Yr Eglwys Newydd, CF14 1DD, rhwng 10.00yb a hanner dydd ar ddyddiau Gwener yn ystod tymhorau'r ysgolion. https://www.cwmpawd.org/
- Cyfle i fwynhau diod a sgwrs - PEINT A SGWRS, Porter's, Barrack Lane, St David’s Centre, CF10 2GS. Nos Wener ola'r mis - 6.00yh-8.00yh..
Mae'n eitha anodd dod o hyd iddo felly dyma'r WHAT3WORDS: Ciwbiau.magais.ticiwch Wedi'i drefnu gan Dysgu Cymraeg Caerdydd ar gyfer dysgwyr ar eu cyrsiau. Cysylltwch â'r tiwtor, Terry, os hoffech chi fynd: Terry
DYDD SADWRN
Clwb Gwylio Adar Misol - bore Sadwrn cyntaf y mis. Cwrdd ger Canolfan y Wardeniaid, Fferm y Fforest gyda theithiau i fannau eraill o bryd i'w gilydd. Cwrdd am 10.00 yn yr haf ond am 10.30 yn yr hydref a'r gaeaf. Am fanylion pellach, cysylltwch ag Eirian
Bore Coffi Misol - Eglwys Dewi Sant, CF10 3DD - fel arfer 3ydd bore Sadwrn y mis, 10.30-12.00. Facebook - Eglwys Dewi Sant
Mae Dysgu Cymraeg Caerdydd yn trefnu llu o weithgareddau ar gyfer y rhai sy'n dilyn cyrsiau swyddogol. https://www.instagram.com/learnwelshcardiff/
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Gwenllian Willis: Gwenllian
Cofiwch hefyd am dudalen Calendr Caerdydd sy'n cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am ddigwyddiadau Cymraeg yng Nghaerdydd.
Grwpiau eraill yng Nghaerdydd: