Pris: £25.00
Cyd-gerdded drwy'r Cerddi: Taith drwy rai o gerddi gorau beirdd yr Ugeinfed Ganrif gyda Bethan Mair.
Taith bersonol trwy gerddi'r beirdd isod gan ganolbwyntio ar un bardd ymhob sesiwn.
Bydd Bethan yn esbonio'r testun ac yn rhoi ei hymateb personol hi i'r cerddi.
Noder mai cefndir y beirdd a'r prif themâu fydd y canolbwynt yn hytrach na'r arddull a'r dyfeisiau barddol.
Y gobaith yw y bydd pawb sy'n mynychu'r cwrs yn magu hyder wrth ddarllen a gwrando ar y cerddi er mwyn gallu deall a gwerthfawrogi holl gyfoeth barddoniaeth yr 20fed Ganrif yng Nghymru.
Beirdd dan sylw:
Sesiwn 1: T Glynne Davies
Sesiwn 2: Nesta Wyn Jones
Sesiwn 3: Gwyn Thomas
Sesiwn 4: Dafydd Rowlands
Sesiwn 5: Menna Elfyn
Bydd y sesiynau'n cael eu recordio felly os byddwch yn colli sesiwn, cofiwch ofyn am y recordiad.