Cyfle i wirfoddoli
Pris: Am Ddim
Rydym yn chwilio am bobl i helpu rhedeg sesiwn sgwrsio newydd yn Hyb Rhydypennau o fis Medi.
Y bwriad yw cynnal y sesiynau bob yn ail wythnos rhwng 10.30 a 11.30 o fore Iau, 12 Medi.
Byddai'r rhain yn gyfarfodydd anffurfiol sy'n cynnig cyfle i bobl alw heibio i gael paned am ddim a sgwrs yn y Gymraeg.
Os gallwch chi sbario awr bob yn ail wythnos; awr y mis; neu hyd yn oed awr bob hyn a hyn - cysylltwch!
Gallwch nodi eich diddordeb drwy gofrestru ar y wefan neu drwy anfon e-bost at Rachel.

Ioga Beichiogrwydd - Pregnancy Yoga
Dewch i ymuno a Kate am gwrs 'Ioga Beichiogrwydd'. 4 sesiwn ar ol am £28 yn unig
Hwb Grangetown Hub
Pris: £28.00
Dosbarth Sgiliau Digidol
Dewch i ymuno yn y sesiynau 'galw i mewn' am ddim. Cyfle gwych i wella eich sgiliau digidol.
Pris: Am Ddim
Gweithgareddau Awyr Agored Haf 2025
Gweithgareddau ar gael i'w bwcio'n unigol yn nes at yr amser.
Pris: Am Ddim
LLAWN - Pilates Haf 2025
Ymunwch gyda Mari-Wyn i ymarfer a datblygu cryfder a hyblygrwydd y corff.
Pris: £70.00
Grwp Sgwrsio Hyb Rhiwbeina
Cyfle i'r rhai sy'n llai hyderus eu Cymraeg gwrdd i sgwrsio.
Pris: Am Ddim
LLAWN - Tai Chi - Haf 2025 - Cwrs Newydd - Lefel 1
Shibashi (Lefel 1) ar gyfer oedolion o bob oed
LLAWN
Pris: £40.00
Ffitrwydd gyda Ffrindiau 75+ (bob yn ail wythnos)
Pris: Am Ddim
Clwb Oedolion Ifanc 2025
Ar gyfer unigolion ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae’r clwb yn Gymraeg ond mae croeso i bawb. Croeso i chi ddod a ffrind neu ofalwr.
5pm - 6:30pm
Festri Capel Salem Market Rd, Caerdydd CF5 1QE
Pris: Am Ddim
Chwilio am gyfle i siarad Cymraeg?
Cliciwch yma i weld manylion rhai o'r grwpiau anffurfiol yng Nghaerdydd ar gyfer y rhai sydd am gwrdd i sgwrsio yn y Gymraeg. Mae'r rhan fwyaf yn addas ar gyfer dysgwyr a siaradwyr rhugl.
Pris: Am Ddim
Bore Coffi i Ddysgwyr ar Zoom
Sesiwn ar y cyd â Dysgu Cymraeg Caerdydd.
Sesiwn nesaf: Bore Gwener, 27 Mehefin
Pris: Am Ddim
LLAWN - Tai Chi (Hyb Rhydypennau) - Haf 2025 - Lefel 3
Dosbarth Tai Chi - yn addas ar gyfer oedolion o bob oed
Pris: £55.00