Os ydych yn cael trafferth yn talu ar ffôn symudol neu dabled, ceisiwch ar gliniadur yn lle.

Event Not Found

Gweithgareddau Ionawr-Mawrth 2025

Beth sydd ymlaen rhwng Ionawr a Mawrth?

Pris: Am Ddim

Ioga Beichiogrwydd - Pregnancy Yoga

Cwrs 'Ioga Beichiogrwydd' gyda Kate Griffiths.

5 wythnos

£35

Pris: £35

Cofio Dewi ar hyd yr Oesoedd (ZOOM)

3 darlith ar Zoom

Pris: £12

GIG: Gwilym Bowen Rhys Trio + Melda Lois

Gig yn y Paradise Garden, CF24 3JD 

Pris: £10

Clwb Oedolion Ifanc 8/1/25

Ar gyfer unigolion ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae’r clwb yn Gymraeg ond mae croeso i bawb. Croeso i chi ddod a ffrind neu ofalwr.

5pm - 6:30pm

Festri Capel Salem Market Rd, Caerdydd CF5 1QE

Pris: Am Ddim

Y Gerddorfa Ukulele Gwanwyn 2025

Dewch i ymuno gyda'r Gerddorfa Ukulele o dan arweiniad Mei Gwynedd. Addas i chwaraewyr o bob lefel. Croeso mawr i rai sy'n dysgu Cymraeg.

Pris: £80

Gwersi Ioga Gwanwyn 2025

Dewch i ymuno gyda'r hyfforddwr Kate Griffiths i ddysgu technegau anadlu a sut i wella hyblygrwydd a chryfder y corff.

Addas i bob lefel.

Pris: £84

Byd Dafydd ap Gwilym (ZOOM)

Cyfle i fwrw golwg ar rai o gerddi bardd Cymraeg mwyaf yr Oesoedd Canol.

Pris: £12

Sgwrs y Mis - Ionawr 2025 (ZOOM)

Sgwrs yng nghwmni Dr Osian Elias.

Pris: Am Ddim (Croesewir Rhoddion / Donations Welcome)

Sgwrs y Mis 2025

Cyfres o sgyrsiau ar Zoom

Pris: £20.00

Laffwyl Ionawr 2025

Yn y gyfres yma o Laffwyl, bob deufis, mae'r arlwy, fel arfer yn wych! Dan ofal Aled Richards, dere i godi calon wrth gael laff!

Pris: £10

Coffi a Chlonc: Hyb Rhydypennau

Cyfle i gwrdd am sgwrs.

Pris: Am Ddim

Cynganeddu i Ddechreuwyr 2024-25

Dewch i ddysgu mwy am y grefft o gynganeddu dan arweiniad Gethin Wyn Davies.

Gallwch gofrestru gyda'r dosbarth yma i gael mynediad ar lein os dymunwch.

Pris: £95

Cynganeddu Profiadol 2024-25

Dewch i ymuno gyda'r dosbarth profiadol i ymarfer a mireinio eich sgiliau cynganeddu dan arweiniad Aron Pritchard.

Pris: £95

Cyfle i wirfoddoli

Hoffech chi helpu rhedeg sesiwn sgwrsio newydd?

Pris: Am Ddim

Chwilio am gyfle i siarad Cymraeg?

Cliciwch yma i weld manylion rhai o'r grwpiau anffurfiol yng Nghaerdydd ar gyfer y rhai sydd am gwrdd i sgwrsio yn y Gymraeg. Mae'r rhan fwyaf yn addas ar gyfer dysgwyr a siaradwyr rhugl.

Pris: Am Ddim

Bore Coffi i Ddysgwyr ar Zoom

Sesiwn ar y cyd â Dysgu Cymraeg Caerdydd.

Sesiwn nesaf: Bore Gwener, 31 Ionawr

 

Pris: Am Ddim

Sbaeneg (Canolradd - ZOOM)

Parhad o'r cwrs Canolradd ar Zoom.

Pris: £28

LLAWN - Tai Chi (Hyb Rhydypennau) - Ionawr-Mawrth 2025

Dosbarth Tai Chi - yn addas ar gyfer oedolion o bob oed

Cysylltwch i fynd ar y rhestr aros

 

Pris: £54

Ffitrwydd gyda Ffrinidau - 75+ oed

Sesiynau ffitrwydd wedi’u teilwra ar gyfer y rhai dros 75 oed.

 

Pris: Am Ddim