Laffwyl Ebrill 2026!
Chwip o noson gyda'n MC Aled Richards, Steffan Evans, Eleri Morgan, Alis Hedd a Richard Elis - bacha dy docyn!
Pris: £10.00
Clwb Ni Tymor y Gwanwyn 26
Croeso mawr i chi ymuno yn ein clwb i oedolion ag anghenion ychwanegol.
Mae’r clwb yn Gymraeg ond mae croeso i bawb. Croeso hefyd i chi ddod a ffrind neu ofalwr. Dyma ein Trac Nadolig:
clwbni.bandcamp.com/track/nadolig-ni
Diolch arbennig i'n noddwyr hael.
Pris: Am Ddim
Cwrs Zoom: Cymru yn yr Oesoedd Canol (Siaradwyr Newydd)
4 sesiwn ar Zoom - Siaradwyr Newydd.
Pris: £20.00
Noson yng nghwmni Mei Gwynedd a'r Gerddorfa Ukulele
Noson i bawb, wedi'i threfnu gan Dysgu Cymraeg Caerdydd
Pris: Am Ddim
Taith Feddwlgarwch - Orielau'r Amgueddfa Genedlaethol
Taith dywys trwy'r orielau celf gyda chyfle i oedi a gweld yr arddangosfeydd trwy lygaid newydd.
Pris: Am Ddim
Sgwrs y Mis: Mawrth
Pris: Am Ddim
Taith Dywys: Arddangosfa Gwen John
Pris: Am Ddim
Gwersi Gwnio Gwanwyn 26
Dewch i ymuno gyda Janet James ar gyfer cyfres o wersi yn canolbwyntio ar sgiliau gwnio yn defnyddio peiriant.
Pris: £60.00
Teithiau Tywys Ionawr-Mehefin 2026
Amserlen ein teithiau tywys yn ystod hanner cynta'r flwyddyn.
Pris: Am Ddim
Y Gerddorfa Ukulele Gwanwyn 2026
Dewch i ymuno yn yr hwyl gyda Mei Gwynedd. Croeso i chwaraewyr newydd.
Pris: £55.00
Ioga Gwanwyn 2026 - Llawn
Dewch i ymuno gyda Kate Griffiths am dymor newydd o wersi ioga. Addas i bob lefel ffitrwydd.
Pris: £85.00
Pilates Gwanwyn 2026
Dewch i ymuno gyda Mari-Wyn ar gyfer cyfres newydd o wersi Pilates. Mae Pilates yn ddull o ymarfer corff sy'n datblygu hyblygrwydd a chryfder cyhyrol.
Pris: £80.00
Gwersi Cynganeddu i Ddechreuwyr 2025-26
Dewch i ddysgu mwy am y grefft o Gynganeddu dan arweiniad Gethin Wynn Davies.
Gallwch ymuno â'r dosbarth yma i ddysgu ar lein os dymunwch.
Pris: £98.00
Gwersi Cynganeddu Cam Ymlaen 2025-26
Dewch i ymuno gyda'r Prifardd Gruffudd Owen i wella eich sgiliau a'ch dealltwriaeth o'r Gynghanedd. Addas i rai sydd â rhywfaint o ddealltwriaeth o hanfodion y grefft.
Gallwch ymuno â'r dosbarth yma i ddysgu ar lein os dymunwch.
Pris: £98.00
Gwersi Cynganeddu Profiadol 2025-26
Dewch i ymarfer a mireinio eich sgiliau Cynganeddu dan arweiniad Aron Pritchard.
Cofrestra, brysia o'r bron,
yn waedd o gynganeddion!
Pris: £98.00
Ffitrwydd gyda Ffrindiau 75+ (bob yn ail wythnos)
Pris: Am Ddim
Chwilio am gyfle i siarad Cymraeg?
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am rai o'r sesiynau anffurfiol i siaradwyr Cymraeg o bob lefel sy'n cael eu cynnal yng Nghaerdydd.
Pris: Am Ddim
Bore Coffi i Ddysgwyr ar Zoom
Sesiwn ar y cyd â Dysgu Cymraeg Caerdydd.
Sesiwn nesaf: Bore Gwener, 27 Chwefror
Pris: Am Ddim












.jpg)
















