Taith Gerdded: Cylchdaith Parc Hailey a Radyr
Cylchdaith 5 milltir o Barc Hailey ar hyd Camlas Morgannwg ac Afon Taf i Goed Radyr ac yn ôl. Dewch â fflasg!
Mae maes parcio ger Parc Hailey neu gallwch ddal y bws neu’r trên i Ystum Taf.
Mwy…Cylchdaith 5 milltir o Barc Hailey ar hyd Camlas Morgannwg ac Afon Taf i Goed Radyr ac yn ôl. Dewch â fflasg!
Mae maes parcio ger Parc Hailey neu gallwch ddal y bws neu’r trên i Ystum Taf.
Mwy…Ymunwch â ni ar daith gyffrous i ddod o hyd i ystlumod yr Amgueddfa wrth iddi nosi. Gwisgwch ddillad addas a dewch â fflachlamp (a fflasg os hoffech chi!)
Mae’r daith yn dechrau wrth y brif fynedfa ac yn para awr a hanner. Mae pris y tocyn yn cynnwys parcio.
Taith a phris arbennig i gefnogwyr Menter Caerdydd.
Mwy…Ymunwch â ni ar daith gyffrous i ddod o hyd i ystlumod yr Amgueddfa wrth iddi nosi. Gwisgwch ddillad addas a dewch â fflachlamp (a fflasg os hoffech chi!)
Mae’r daith yn dechrau wrth y brif fynedfa ac yn para awr a hanner. Mae pris y tocyn yn cynnwys parcio.
Taith a phris arbennig i gefnogwyr Menter Caerdydd.
Mwy…Ymunwch â ni mewn trafodaeth gyda Jess Davies a Mari Gwenllian yn Stiwdio S, lle byddwn yn siarad am bopeth hyder corff, cyfryngau cymdeithasol a rhannu awgrymiadau ar sut i ymarfer hunan gariad.
Yn addas i pobl ifanc ac oedolion 16+
Mwy…Taith ddiwylliannol o gwmpas Parc Cathays yng nghwmni Dr Dylan Foster Evans a Dr Gethin Matthews.
Dewch i ddysgu am yr adeiladau, cofebau a phobl sydd wedi gadael eu marc ar ein prifddinas.
I gofrestru: rachel@mentercaerdydd.cymru
Mwy…Lansiad arbennig llyfr ‘Cymry o Fri!’
Hanes 50 o Gymry Ysbrydoledig yng nghwmni Jon Gower a’r darlunydd Efa Lois. Mewn partneriaeth â ‘Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru’. Bydd lluniaeth ysgafn ar gael a cheir gostyngiad o 20% oddi ar bopeth yn siop Cant a Mil ar y noson.
Mwy…Bydd Tafwyl yn cael ei chynnal ar benwythnos 18-19 Mehefin yng Nghastell Caerdydd. Dewch i glywed mwy am yr holl weithgareddau yng nghmwni’r Prif Swyddog, Caryl!
Mwy…Sgwrs sy’n olrhain hanes trysorau cudd oes aur diwydiant yn y ddinas, ac un o gasgliadau gorau’r byd o waith gwasg William Morris, nawr dan ofal Prifysgol Caerdydd.
Mwy…Taith i’r Ardd Fotaneg yn Llanarthne.
Gallwch ddewis dal y bws o Gerddi Soffia neu Gyffordd 33 yr M4.
Cyfle i grwydro yng nghwmni ‘Adam yn yr Ardd’ rhwng 14:00 a 16:00. Gweddill yr amser yn rhydd.
Mae’r pris yn cynnwys mynediad i’r Ardd Fotaneg.
Mwy…Cyfle i grwydro trwy dref Penarth gan fwynhau’r golygfeydd ac ychydig o awyr iach. Byddwn yn dechrau a gorffen ym maes parcio Pen y Clogwyn ac yn cerdded ar hyd y promenâd, trwy’r gerddi ac ar hyd strydoedd y dref.
Mwy…O dan arweiniad Mei Gwynedd! Mae’r sesiynau hyn yn addas i chwaraewyr ar lefel uwch. £75 am 10 wythnos!
Mwy…Parhâd o’r cwrs canolradd. 6 sesiwn: 26.04; 10.05; 24.05; 07.06; 21.06; 05.07.
Mwy…