Os ydych yn cael trafferth yn talu ar ffôn symudol neu dabled, ceisiwch ar gliniadur yn lle.

Chwilio am gyfle i siarad Cymraeg?

Pris: Am Ddim

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion rhai o'r sesiynau anffurfiol i siaradwyr Cymraeg o bob lefel sy'n cael eu cynnal yng Nghaerdydd.

Os ydych chi'n rhedeg grŵp nad yw'n cael ei gynnwys yma – cysylltwch!  Rydym yn ymdrechu i gadw'r wybodaeth yn gyfredol felly plis gadewch wybod os bydd manylion y sesiynau'n newid.  (Cyswllt: Rachel)

 

DYDD LLUN

Criw'r Village Inn, Pentwyn, CF23 8AJ -10.30yb - Cyfle i siaradwyr Cymraeg o bob gallu sgwrsio ac ymarfer eu Cymraeg.

 

Clonc Bore Llun. Yr Awr Hapus. Yn cwrdd yn nhafarn yr Hollybush, Coryton / yr Eglwys Newydd rhwng 10.45 a 11.45 ac weithiau ar Zoom rhwng 10.45 a 11.25.

Cysylltwch ag Eirian neu, @GwilymDafydd ar X am fwy o fanylion.

 

Clonc yn y Cwtsh

Criw hwyliog sy'n cwrdd i sgwrsio yn Chapter ar nosweithiau Llun o 7.00yh. Croeso i bawb. Os ydych chi'n meddwl dod am y tro cyntaf, cysylltwch â Rwth - Clonc yn y Cwtsh

 

DYDD MAWRTH

Grŵp sgwrsio anffurfiol sy'n cwrdd yng nghaffi Castell Caerdydd. 10.30-11.30yb. I ymuno: Rachel

Clonc yn y Bae

Cyfle i ymarfer siarad Cymraeg mewn awyrgylch gyfeillgar ac anffurfiol yng nghwmni Mair a'r criw. Mae'r grŵp yn cwrdd mewn caffi ym Mae Caerdydd am 2.00 y prynhawn. Cysylltwch â Rachel i gael manylion cyswllt Mair, y trefnydd.

 

DYDD MERCHER

Grŵp Darllen Cant a Mil – 1.30-3.15yp bob dydd Mercher yng Nghaffi One2Two, Whitchurch Road, CF14 3JN.

Am fwy o fanylion: 029 2021 2474 neu Jo

Cymraeg Meetup Caerdydd/Cardiff   Meetup Caerdydd

Os ydych chi'n chwilio am gyfle i siarad Cymraeg, beth am fentro i Zero Degrees, Stryd Westgate ar nosweithiau Mercher rhwng 6.00 a 9.00yh. Mae croeso i siaradwyr rhugl a siaradwyr newydd fel ei gilydd. A fwy o wybodaeth, ymunwch â'r grŵp preifat ar Facebook. Chwiliwch am Cymraeg Meetup Caerdydd/Cardiff.

 

DYDD IAU

Pear Tree, Heol Wellfield, CF24 3PE - Croeso i bawb sy'n siarad Cymraeg neu'n dysgu.  11:00yb.

Clonc yng Nghastell Caerdydd rhwng 1.00 a 2.00 y prynhawn. Croeso i bawb ymuno â ni am sgwrs.  Cysylltwch ag Eirian neu @GwilymDafydd ar X am fwy o fanylion.

Grŵp Cymraeg Caerdydd  Grwp Cymraeg Caerdydd

Ymunwch â Grŵp Cymraeg Caerdydd | Welsh Language Group Cardiff i glywed am ddigwyddiadau ar gyfer siaradwyr Cymraeg a dysgwyr ar nosweithiau Iau yn nhafarn yr Owain Glyndŵr.  Ymhlith pethau eraill, mae'r criw yn trefnu 'Noson Dsygwyr Cymraeg' sy'n addas ar gyfer dechreuwyr.  

 

DYDD GWENER

Brecwast Cymraeg Cant a Mil, bob dydd Gwener

9:00-10:00yb yng Nghaffi Waterloo Tea, 190-192 Whitchurch Road, Caerdydd, CF14 3NB. Croeso mawr i bawb!

Am fwy o fanylion: 029 2021 2474 neu Jo

 

Bore Coffi Misol i Ddysgwyr ar Zoom wedi'i drefnu gan Menter Caerdydd a Dysgu Cymraeg Caerdydd.  I ymuno: Rachel

 

DYDD SADWRN

Clwb Gwylio Adar Misol - bore Sadwrn cyntaf y mis. Cwrdd ger Canolfan y Wardeniaid, Fferm y Fforest gyda theithiau i fannau eraill o bryd i'w gilydd. Cwrdd am 10.00 yn yr haf ond am 10.30 yn yr hydref a'r gaeaf. Am fanylion pellach, cysylltwch ag Eirian

 

Mae Dysgu Cymraeg Caerdydd yn trefnu llu o weithgareddau ar gyfer y rhai sy'n dilyn cyrsiau swyddogol. Mae'r rhain yn cynnwys sesiynau sgwrsio wyneb yn wyneb ac ar Zoom; Peint a Sgwrs unwaith y mis yn y Daffodil, Windsor Place; taith gerdded yng Nghaerdydd un dydd Gwener y mis; Sesiwn Hanes Cymru fisol a Chlwb Cwrw misol yn yr Albany, Donald St, y Rhath.

 Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Gwenllian Willis: Gwenllian

 

Cofiwch hefyd am dudalen Calendr Caerdydd sy'n cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am ddigwyddiadau Cymraeg yng Nghaerdydd.

Sgwrs y Mis: Mai (Zoom)

Sgwrs gan Dr Rhian Meara, Prifysgol Abertawe

Pris: Am Ddim

Cerdded a Chlonc: Mai (Parc y Rhath)

Dro hamddenol a chyfle i sgwrsio.

Pris: Am Ddim

Ioga Haf 24

Dewch i ymuno yn ein sesiynau Ioga wythnosol gyda Eleri.

Cyfle i ddysgu techneg anadlu, gwella ystwythder a datblygu cryfder.

Pris: £55

Laffwyl Mai 2024

Aled Richards yr MC fydd yn cyflwyno:

Phil Cooper

Steffan Evans

Gwion Clarke

Dai Lloyd

Nos Iau wythnos Sulgwyn!

Pris: £8

Sgwrs y Mis: Ebrill-Mehefin

Sgyrsiau misol ar Zoom

Pris: Am Ddim

Cerdded a Chlonc 2024

Cyfle i grwydro a sgwrsio!

Pris: Am Ddim

LLAWN - Ymweliad: BBC Cymru. Sgwâr Canolog, Caerdydd

Taith dywys o gwmpas adeilad BBC Cymru Wales.

Pris: £15

Mewn Tiwn: Ebrill

Cyngerdd gymunedol gyda chyfle am baned o flaen llaw.

Pris: Am Ddim

Garddio Gwanwyn 2024

Cwrs byr, dan ofal Eirlys o 'Bwyta Ein Gerddi' fydd yn cynnig cyngor a syniadau ar sut i baratoi at y tymor tyfu newydd.

Addas i rai sy’n tyfu mewn potiau neu mewn gerddi bach neu mawr!

Pris: £30

Y Gerddorfa Ukulele Haf 24

Dewch i ymuno yn yr hwyl wrth i Mei Gwynedd a'r Gerddorfa Ukulele ddathlu 10 mlynedd eleni. Addas i chwaraewyr o bob lefel. Croeso mawr i aelodau newydd.

Pris: £80

Pilates Haf 2024 LLAWN

Ymunwch gyda Mari-Wyn am dymor o ymarfer sy'n datblygu cryfder a hyblygrwydd. 

Pris: £55

Mewn Tiwn 2024

Cyngherddau Cymunedol

Pris: Am Ddim

Chwilio am gyfle i siarad Cymraeg?

Cliciwch yma i weld manylion rhai o'r grwpiau anffurfiol yng Nghaerdydd ar gyfer y rhai sydd am gwrdd i sgwrsio yn y Gymraeg. Mae'r rhan fwyaf yn addas ar gyfer dysgwyr a siaradwyr rhugl.

Pris: Am Ddim

Bore Coffi i Ddysgwyr ar Zoom

Sesiwn ar y cyd â Dysgu Cymraeg Caerdydd.

Sesiwn nesaf: Bore Gwener, 26 Ebrill

Pris: Am Ddim

Sbaeneg (Canolradd - ZOOM)

Parhad o'r cwrs Canolradd ar Zoom.

Pris: £28

Tai Chi (Hyb Rhydypennau)

Dosbarth Tai Chi - yn addas ar gyfer oedolion o bob oed

 

Pris: £36

Ffitrwydd gyda Ffrinidau - 75+ oed

Sesiynau ffitrwydd wedi’u teilwra ar gyfer y rhai dros 75 oed.

Cysylltwch am fwy o wybodaeth.

Pris: Am Ddim