PENWYTHNOS MAWR CR CYMRY CAERDYDD!
Apr 18, 2026
Penwythnos yma bydd ein timau MERCHED a DYNION yn chwarae gemau Rownd Derfynol yn Stadiwm y Principality.Camp aruthrol! P'nawn Sadwrn yma bydd MERCHED CR Cymry Caerdydd yn ymddangos yn y Stadiwm am y pedwerydd tro yn olynnol - gwych yn wir. Eu gwrthynebwyr ETO eleni yn ffeinal PLÂT URC bydd CR Blaendulais. Colli mewn gêm gystadleuol glos y llynedd a'r gobaith eleni bydd codi'r PLÂT ar y chwiban olaf. Ac yna P'nawn Sul tro y DYNION yn Rownd Derfynol Cwpan Adran 2 URC . Byddwn yn herio CR Cwins Aberafan, a hwythau fel ni dim ond wedi colli un gêm gynghrair gydol y tymor. Mae'n argoeli i fod yn chwip o ornest.
Eleni mae Merched CR Cymry Caerdydd yn dathlu eu degmlwyddiant, ac yn bendant mae agwedd ac ymroddiad y chwaraewyr, hyfforddwyr a'r pwyllgor o wirfoddolwyr glew yn destament i'w llwyddiant a'u ethos.
Y tymor nesaf byddwn yn dathlu 60 mlynedd ers ein sefydlu yn 1967. Ar y cychwyn oll cyfle i ddynion ifanc o Gaerdydd a dyfodiaid i'r ddinas chwarae a chymdeithasu yn y Gymraeg. Yr un yw'r bwriad heddiw, o'n timau dan 6 hyd at dan 16 a'n carfan Ieuenctid yn ogystal a'n timau merched dan 12 & 14. Dros 400 yn mwynhau ar gaeau Pontcanna. Fel Clwb rydyn ni'n derbyn unrhyw UN i ymuno a'n cymuned cyn belled â'u bod yn arddel ein gwerthoedd cadarn - CYMREICTOD, CWRTEISI, CYFEILLGARWCH trwy RYGBI!
Adroddiadau a Chyhoeddiadau
TAFWYL
Gŵyl flynyddol i ddathlu’r iaith, celfyddydau a diwylliant Cymreig yw Tafwyl. Fe’i sefydlwyd yn 2006 fel rhan o waith craidd Menter Caerdydd, elusen sy’n hyrwyddo ac ehangu’r defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg yng Nghaerdydd.