Swyddi Rhentu Doeth Cymru
Aug 17, 2026
.png)
Ar hyn o bryd rydyn ni’n chwilio am siaradwyr Cymraeg rhugl i weithio fel Arweinydd Tîm / Swyddogion Gwasanaeth Cwsmeriaid a Thrwyddedu yn ein sefydliad.
Bydd gan yr ymgeiswyr delfrydol sgiliau gwasanaeth cwsmer a phrofiad canolfan gyswllt, ond rydyn ni’n darparu ychydig o hyfforddiant felly tydi profiad blaenorol ddim yn angenrheidiol i wneud cais ond bydd yn helpu.
Mae cael diddordeb mewn tai ac eiddo neu iechyd amgylcheddol hefyd yn fonws, gan fod yna gyfleoedd i symud ac adeiladu o fewn y sefydliad.
Mae’r swyddi yn rhai gweithio o’r swyddfa yng Nghaerdydd a gallen nhw fod yn swyddi llawn amser neu rhan amser yn ddibynnol ar anghenion yr ymgeiswyr.
Adroddiadau a Chyhoeddiadau
TAFWYL
Gŵyl flynyddol i ddathlu’r iaith, celfyddydau a diwylliant Cymreig yw Tafwyl. Fe’i sefydlwyd yn 2006 fel rhan o waith craidd Menter Caerdydd, elusen sy’n hyrwyddo ac ehangu’r defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg yng Nghaerdydd.